Cyd-gynyrchiadau / Co-productions

Tai Bach Y Byd

Tai Bach y BydYn gyd-gynhyrchiad gan Cwmni Da a Western Front Films, bydd cyfres pedair rhan yn cael ei darlledu ar S4C, a rhaglen ddogfen awr o hyd ar BBC4. Cyflwynydd y gyfres yw’r bardd a’r darlledwr, Ifor ap Glyn, fydd yn edrych ar hanes, datblygiad a chynllun toiledau ar draws y byd. O doiledau oes y Rhufeiniaid i doiledau’r dyfodol, bydd y gynulleidfa yn cael eu tywys ar wibdaith glanweithdra, gan ymweld â sawl gwlad a chyfarfod â nifer o bobl ddiddorol sy’n gweithio yn y maes toiledau.

Byddwn yn ymweld â China, Japan, yr Iseldiroedd, Sbaen a’r India, yn cael blas o’r noson Gwobrau’r Pŵ Euraidd yn Llundain ac yn darganfod mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud gan y Sefydliad Gates i wella safon toiledau yn y Trydydd Byd. Ymysg y rhai sy’n cymryd rhan yn y gyfres Gymraeg mae’r Parchedig Aelwyn Roberts sydd wedi ysgrifennu dau lyfr am dai bach yng Nghymru, a Jasmine Wilson, Rheolydd Gwasanaethau Glanhau Cyngor Sir Ceredigion. Cwmni Da oedd y cwmni cyntaf i wneud cais llwyddiannus i gronfa cyd-gynhyrchu newydd S4C.