
Creiriau. Lleoliadau. Pobol. Dyma dair ‘angor’ y gyfres gylchgrawn, Darn Bach o Hanes.
Trwy fodio a gafael mewn creiriau anarferol, ymweld â lleoliadau dadlennol, a chyfarfod â phobol sydd â stori i’w dweud, bydd Dewi Prysor, Rhodri Llwyd Morgan, Lisa Gwilym, Rhys Mwyn, Gwenan Schiavone a llu o wynebau eraill sy’n cymryd diléit yn y gorffennol, yn teithio Cymru benbaladr i olrhain hanes cyfoethog ein gwlad.
O ben-hebogwyr canoloesol i geeks oes gyfrifiadurol yr 1980au, mae pob cyfnod o hanes o dan y chwyddwydr; a thros gyfres o chwe rhaglen, cawn fwynhau storfa o ffeithiau difyr, ac chlywed ambell i stori ddadlennol, ac annisgwyl.
Pob wythnos, mae Dewi hefyd yn ein gwahodd i ddyfalu “Be’ Ydi O?”, gan ddadorchuddio crair anarferol o storfeydd clöedig Amgueddfa Werin Sain Ffagan.
![]()
Blog Dewi Prysor
‘Arfonwyson’ ac aelwyd lechen Bryn Twrw
Aelwydi llechi Dyffryn Ogwen
Castell Cefnlys
Chwiban hebogwr