Drama
Mae cynyrchiadau drama safonol wedi bod yn rhan bwysig o waith Cwmni Da ers i Tonfedd-Eryri ddod dan berchnogaeth y cwmni yn 2006. O’r gyfres Tipyn o Stad, a lwyddodd i gyfuno’n effeithiol yr hagrwch a’r hiwmor sy’n rhan o fywyd tref wledig, i ffresni a hiwmor du Sombreros, cyfres tair rhan wedi ei ffilmio ym Mallorca a Chymru, mae’r cwmni wedi ymdrechu i greu cynyrchiadau sy’n wreiddiol, yn gofiadwy a thrawiadol.
-

Mewn drama ddogfen gan Cwmni Da cawn ddarlun gonest o fywyd un o lenorion pwysicaf Cymru gan roi sylw i'r profiadau anodd a gafodd fel plentyn ac oedolyn.
Mwy >>
-

Wedi ei ffilmio ar leoliad yng Nghymru a Mallorca, dyma’r gyfres ddrama gyntaf i Pauline Williams ei hysgrifennu ar ei phen ei hun.
Mwy >>
-

Llwyddwyd i greu naws gyfandirol i’r gyfres ddrama hon a ffilmiwyd yn bennaf yn nhref glan y môr Llandudno.
Mwy >>
-

Pwy all anghofio helyntion trigolion stad Maes Menai?
Mwy >>