Prentisiaid Cymru yn dechrau eu gyrfaoedd
Mae rhaglen prentisiaeth fwyaf cyffrous Cymru newydd gychwyn ar ei hail flwyddyn, gyda thîm o brentisiaid yn dechrau ar eu gyrfaoedd yn y cyfryngau creadigol a digidol gyda chwmnïau mor amrywiol â BBC Cymru, Cwmni Da, Horse & Country TV, Telesgop a RealSFX.

Tomos Jones, Prentis Skillset/Cwmni Da
Bydd deg o’r prentisiaid wedi’u lleoli yn stiwdio newydd BBC Cymru ym Mhorth y Rhath, Caerdydd, gan weithio ar raglenni proffil uchel megis Casualty a Pobol y Cwm.
Bydd y 18 prentis yn derbyn hyfforddiant mewn amrywiol swyddogaethau, megis cynhyrchu, gwisgoedd, colur, camera, golygu, ôl-gynhyrchu, amserlenni rhaglenni, gosod setiau a rigio.
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: “Mae BBC Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o dalent greadigol ym myd y cyfryngau. Mae rhai o raglenni mwyaf poblogaidd y BBC – fel Doctor Who, Casualty, Merlin, Sherlock a Pobol y Cwm – wedi’u gwneud yng Nghymru. Drwy weithio gyda Skillset Cymru gallwn sicrhau ein bod yn cynnig yr hyfforddiant gorau posib i gynhyrchwyr rhaglenni’r dyfodol.”
Bydd Prentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol Skillset Cymru 2012 yn cael ei lansio yn stiwdio Porth y Rhath fel rhan o Wythnos Genedlaethol Prentisiaeth ar 8 Chwefror 2012.
Daw hyn ar ôl i fwy na 80% o brentisiaid a gwblhaodd eu prentisiaeth gyntaf yn 2011 gael cynnig cyflogaeth amser llawn yn niwydiant y cyfryngau yng Nghymru. Maent bellach yn gweithio mewn swyddi yn amrywio o gynhyrchu rhaglenni teledu i’r cyfryngau digidol a rhyngweithiol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Skillset Cymru, Gwawr Hughes: “Mae Prentisiaeth Skillset yn ffordd gyffrous ac effeithiol i bobl ifanc o bob cwr o’r wlad gael mynediad i ddiwydiannau creadigol a digidol Cymru. Mae llwyddiant ein grwp cyntaf o brentisiaethau Skillset yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fo rhaglenni hyfforddi yn cyfateb yn uniongyrchol i anghenion sgiliau cyflogwyr.”
