Blog Cwmni Da

Blog Dewi Prysor – Maen Hir Nant y Lladron

Wel dyna ni – y gyfres drosodd. Dwi’n gobeithio i chi fwynhau gwylio gymaint a wnes i wrth ffilmio. Dwi hefyd yn gobeithio y cawn gyfle i wneud cyfres arall.

Yn fy mlog cyntaf mi addewais y byddwn yn rhannu chydig o hanes trawiadol fy nghwm genedigol, Cwm Prysor, i chi. Felly mi wna i hynny dros y misoedd nesaf, pan fyddaf yn blogio’n achlysurol – i gadw petha’n ffresh ynde! Ond mi soniais hefyd yn y blog cyntaf hwnnw am y wefr o ddod wyneb yn wyneb â heneb hynafol am y tro cyntaf erioed, ac fel y mae profiad o’r fath yn gwneud chwilio am hanes yn gymaint o bleser. Engraifft o hynny dwi am rannu efo chi yn y blog yma – y profiad o ddod wyneb yn wyneb â Maen Hir Nant y Lladron, ychydig dros flwyddyn yn ôl.

nant y lladron

Hawlfraint Dewi Prysor

Un o fy hoff gyhoeddiadau hanesyddol ydi Meini Meirionnydd (Y Lolfa, 2007) gan Huw Dylan Owen (gynt o Ddolgellau) a David Glyn Lewis. Bu’r llyfr yn gydymaith ffyddlon i mi wrth ganlyn henebion hynafol fy sir dros y blynyddoedd diweddar. Tra’n ymchwilio ar ei gyfer teithiodd yr awduron i safle pob maen hir, cylch cerrig a chromlech ym Meirionnydd. Yn ogystal â chynnwys pwt am hanes, cyfeirnod grid, a llun trawiadol pob un o’r henebion hyn, mae y bardd Huw Dylan Owen wedi sgwennu englyn neu gywydd i bob un ohonynt. Fel Huw, mae gen i ddiddordeb dwfn yn y maes hwn, felly mi ddefnyddiais y llyfr fel ffynhonell i ganfod yr hynodion dirgel hyn fy hun. Ond doedd y wefr o ddod wyneb yn wyneb â rhai ohonynt am y tro cyntaf yn ddim byd o’i gymharu â’r hyn a deimlais wrth ddod ar draws maen Nant y Lladron.

Un rheswm am hynny ydi nad yw maen Nant y Lladron wedi ei gynnwys yn y llyfr. Er i’r awduron ymchwilio mapiau, cofnodion henebau, papurau, ac astudiaethau a chyhoeddiadau archeolegol, nid oeddynt wedi dod ar draws y maen. Yn wir, does dim cofnod ohonno ar fapiau ordnans y ddwy ganrif ddwythaf, a phrin iawn ydi unrhyw wybodaeth amdano. A hynny sydd wrth wraidd y rheswm arall dros fy llawenydd o’i ‘ganfod’ – doeddwn erioed wedi clywed amdano er ei fod o’n sefyll ym mhlwyf Trawsfynydd, a hynny uwchben llethrau gogleddol blaen Cwm Prysor, dim ond tua milltir a hanner fel hed y fran o le cefais fy magu!

Digwydd bod yn chwilio trwy safle wê Archwilio oeddwn i, a dod ar draws y maen wedi ei brofi a’i gofnodi fel maen hir cynhanesyddol, yn dyddio o rhwng 3,000 i 4,000 o flynyddoedd yn ôl – ynghyd â chofnodion yr archaeolegwyr a fu’n ei ei ddyddio. Felly bore trannoeth, i ffwrdd â fi i’w weld o.

nant y lladron 2

Hawlfraint Dewi Prysor

Doedd dim llun o’r maen ar y safwe, dim ond cyfeirnod grid a llun lloeren o’r safle. Mae’r maen yn sefyll mewn coedwig a blannwyd yn nechrau’r 1980au felly nid oedd i’w weld yn y llun lloeren. Ond dangosai’r map ei fod yn sefyll heb fod ymhell o lwybr peilons trydan, tua dau gan llath o nant Nant y Lladron, sy’n rhedeg o’r Migneint i Afon Prysor uwchben viaduct yr hen reilffordd ym mhen uchaf y cwm. Cyfrais y peilons o’r nant i gael rhyw fath o syniad ym mhle i chwilio, ac i ffwrdd â fi. Parciais ger pont Nant y Lladron ar ffordd y Migneint (sy’n arwain o Lan Ffestiniog, lle’r wyf yn byw, at Arenig), a dilynais y nant drwy’r goedwig am ganllath. Wedi cyrraedd y peilons, mi droiais i’w dilyn. Roedd eira mawr y Nadolig wedi clirio, ond yma ar y Migneint roedd o’n dal i orwedd dros ffosydd coedwigaeth a choed wedi disgyn, ac mi fum yn stryffaglio dros y cwbl am sbel, cyn troi i mewn i ganol y coed. Yno yn y lled-dywyllwch penderfynais wneud swîp trylwyr o’r coed trwy gerdded yn fy nghwman yn ôl ac ymlaen o dan y coed, ar hyd ardal go eang, rhag ofn i mi fethu gweld y maen.

Bum wrthi am hanner awr o leiaf, nes mod i’n sgriffiadau byw drostaf, diolch i ganghennau isel y coed. Gan nad oedd gennyf lun o’r maen, doedd gen i ddim syniad be i chwilio amdano – mae rhai o’r meini a nodir ar fapiau neu mewn cofnodion yn rhai bychain iawn, a rhai ohonynt wedi disgyn ac yn gorwedd ar eu cefnau. Roeddwn ar fin rhoi i fyny am y tro, pan welais yr agoriad lleiaf yn y coed, rhyw ugain llath i ffwrdd – digon o agoriad i fymryn o olau dydd ddod drwyddo.

Ac yna, fe’i gwelais. Ac roedd yr hyn a welwn y tu hwnt i’m disgwyliadau. Nid maen bach oedd hwn, ac nid maen oedd wedi disgyn, chwaith. Roedd o’n sefyll, yn fetr a hanner o uchel, gan wisgo mantell o fwsog gwyrdd, gydag un cornel o’i ben uchaf fel pe tai’n pwyntio i’r awyr – yn nodweddiadol o lawer o’r math o feini hirion y credir mai arwyddfeini oeddynt, yn ardaloedd gorllewin Prydain.

Mi dreuliais rhyw awr dda yno yn mesur a chymryd nodiadau a thynnu lluniau, ac hefyd yn myfyrio. Dyma heneb o’r math sydd wedi fy niddori ers blynyddoedd, yn sefyll filltir a hanner o le gefais fy magu! Mi arhosith y wefr o daro llygaid arno am y tro cyntaf, ar ôl stryffaglio a baglu trwy eira a choed, efo fi am byth.

Mi gysylltais a Huw Dylan Owen – rwy’n ei adnabod yn dda ers blynyddoedd cyn iddo symud i Abertawe – i son am y maen, ac mi oedd yntau, fel finnau, wedi gwirioni o wybod fod maen hir arall ym Meironnydd. Wedi trefnu i fynd ag o yno i’w weld, aeth y ddau ohonom draw yn ystod tywydd braf gwyliau’r Pasg y llynedd. Braf oedd cael rhannu’r wefr efo rhywun arall sy’n gwerthfawrogi arwyddocad yr henebion hyn, ac sydd yr un mor frwdfrydig am dreftadaeth ein cyndadau hynafol. Mawr obeithiwn y caiff Meini Meirionnydd ail-argraffiad cyn hir, fydd yn rhoi cyfle i Huw gynnwys maen Nant y Lladron ynddo.