Blog Cwmni Da

Blog Dewi Prysor – Harri Tudur a thwnnel cudd Dinbych y Pysgod

Ar gyfer Rhaglen 5 o’r gyfres Darn Bach o Hanes, mi ges i ddiwrnod gwerth chweil yn Ninbych y Pysgod, yn cael fy nhywys i ‘dwnneli cudd’ o dan strydoedd y dref gan yr hanesydd lleol John Beynon, a rheolwraig llety gwyliau hunan-gynhaliol Hafod y Môr, Heledd ap Gwynfor.

Un chwedl amlwg sydd wedi codi o’r traddodiad am ‘y rhwydwaith cudd’ hwn ydi i un o’r twnneli gael ei ddefnyddio gan ddarpar Frenin Lloegr, Harri Tudur, wrth ddianc i Lydaw gyda’i ewythr Jasper Tudor tra yn lanc ifanc. Felly, os credir y chwedl, mae gan tref Dinbych y Pysgod ei rhan mewn stori a weddnewidiodd hanes Cymru, Lloegr, Prydain ac, efallai, y byd.

Mae cysylltiadau Cymreig Harri Tudur (Henry Tudor) yn rhai a bwysleisir yn aml, wrth gwrs. Ond ai Cymro oedd o? Do, mi gafodd ei eni yng Nghymru – ym Manorbur yn ne Penfro – ond tiriogaeth Eingl-Normanaidd oedd hwn ers cyfnod y Normaniaid bron i bedair canrif ynghynt. Ac oedd, mi oedd ei dad, Edmund Tudor – Iarll Cyntaf Richmond, hanner brawd i Harri IV ac aelod o lys Harri V a VI – yn ddisgynnydd, trwy ei dad Owen, i linachau brenhinol Cymru trwy Duduriaid Môn. Ond Eingl-Normanaidd oedd teulu a magwraeth Harri, gyda’i fam, Margaret Beaufort, o dras Normanaidd ac yn or-wyres i Edward III.

Ond beth bynnag oedd ei dras a hunaniaeth, byddai’r cysylltiadau brenhinol ar y naill ochr yn chwarae rhan allweddol yn ei fywyd. Achosodd achau ei fam iddo gael ei hyrwyddo fel etifedd i Goron Lloegr ar ran cangen Lancastriaidd llinach y Plantagenets, a fu’n brwydro’r gangen Efrogaidd trwy gydol Rhyfeloedd y Rhosynnau (1455-1485) yn Lloegr. Yn llai uniongyrchol, ond eto’n arwyddocaol, byddai cysylltiadau brenhinol Cymreig llinach ei dad yn cynorthwyo Harri i ddenu cefnogaeth rhai o uchelwyr Cymru ym mrwydr dyngedfennol Bosworth yn 1485. Rhan o bropaganda ei ewythr Jasper a’i gynghorwyr bryd hynny oedd mai Harri Tudur oedd y Mab Darogan newydd, y gŵr fyddai’n cipio coron Prydain yn ôl i’r Brythoniaid unwaith ac am byth. Ond er ennill cefnogaeth rhai o’r beirdd yn hynny o beth, ynghyd â chefnogaeth lled-ansicr a hunanol uchelwyr Cymreig, ni ddaeth ei gysylltiadau Cymreig yn ymarferol ddefnyddiol hyd nes ei deyrnasiad.

Wedi cipio’r Goron ar faes Bosworth mi ddaeth Cymru a materion Cymreig yn dyngedfennol i Harri VII. Blaenoriaeth teyrnasiad Harri oedd atgyfnerthu ei safle fel brenin a sefydlogi’r deyrnas. Bu rhyfeloedd cartref yn rhannu Lloegr ers cenhedlaethau, yn enwedig Rhyfeloedd y Rhosynnau, felly cam cyntaf Harri oedd priodi Elizabeth o Efrog, etifedd yr Efrogiaid i’r Goron. Aeth ati wedyn i ddad-bŵeru a bodloni’r Barwniaid grymus oedd yn dal â dylanwad enfawr yn y deyrnas. Byddai gan Gymru ran allweddol yn y polisi hwn.

Yn hanesyddol bu Cymru, yn enwedig Aberdaugleddau – ble y glaniodd byddin Harri ei hun – yn leoliad delfrydol i fyddinoedd ymosod ar y deyrnas. Gwyddai o brofiad hefyd, fod teyrngarwch yr uchelwyr Cymreig ac Eingl-Gymreig yn fympwyol ac wedi ei seilio ar hunan-hybu. Gwyddai hefyd fod Cymru’n ansefydlog a chythryblus, yn enwedig yn ardal y Gororau, ble’r oedd arglwyddiaethau niferus Barwniaid y Mers – yn enwedig y rhai Eingl-Normaniadd oedd a dylanwad a thiroedd ar draws Lloegr – yn parhau yn lled-annibynol ac yn amrywio o ran cyfraith a gweinyddiad trefn. Polisi Harri yng Nghymru, felly, oedd gwobrwyo uchelwyr gyda breintiau, tiroedd a safleoedd yn y Llys a’r Senedd, law yn llaw ag ymestyn cyfraith a threfn brenhinol trwy’r tiriogaethau Cymreig a Seisnig yn y Gororau.

Yn arwyddocaol, ni welir Harri yn dechrau diddymu llawer o’r cyfreithiau cosb oedd yn bodoli yng Nghymru tan yn gymharol hwyr yn ei deyrnasiad. Yn hytrach, yr hyn a wnaeth i ennill ffafriaeth ymysg gwerin Cymru oedd pwysleisio ei achau Cymreig gyda mân symboliaeth – fel gosod draig goch Cadwaladr (y Mab Darogan cyntaf), a chwifiodd Harri ar ei faner ym Mosworth, ar yr arfbais brenhinol, ac enwi ei fab cyntaf-anedig yn Arthur, enw oedd yn cynrychioli proffwydoliaeth Myrddin a’r Mab Darogan.

Bu farw Arthur yn ifanc gan wneud lle i’r ail fab, Harri VIII , i ddilyn ei dad i’r orsedd, ac mi ddisodlwyd y ddraig goch o’r arbais gyda dyfodiad y Stuartiaid i’r goron yn nechrau’r 17ed ganrif. Ond mi barhaodd presenoldeb eu gwreiddiau Cymreig yn ddefnyddiol i’r Tuduriaid hyd at deyrnasiad Elizabeth I, pan y bu iddi ddefnyddio’r chwedl am ei hynafiad, y tywysog Madog ab Owain Gwynedd, yn darganfod America yn 1170, i ddatgan hawl Coron Lloegr i’r cyfandir hwnnw.

Yn sicr, mi chwaraeodd Harri Tudur, dan ddylanwad ei ewythr Jasper Tudor, ran allweddol yn hanes. Mae’n wir hefyd na fyddai hyn wedi digwydd oni bai iddo ddianc i Lydaw pan yn fachgen 13 oed, gan y byddai’r Efrogiaid, oedd ar y pryd yn rheoli Penfro, wedi ei ddal a’i ladd. Ond o ran y stori mai trwy dwnnel yn Ninbych y Pysgod y dihangodd i ddal y gwch, does dim unrhyw gofnod hanesyddol o hyn o gwbl. Ai stori i ddenu twristiaid ydi hi, felly? Cewch chi benderfynu!