Blog Cwmni Da

Blog Dewi Prysor – Castell Cefnllys

Saif olion Castell Cefnllys ar safle bryngaer Frythonig o Oes yr Haearn, ar gefnen uchel o dir uwchben Afon Ieithon, dair milltir i’r dwyrain o Landrindod.

Mae dadleuon cryf iawn mai dyma gwir safle bryngaer Dinieithon, yn hytrach na safle olion castell canoloesol arall gerllaw. Islaw safle’r castell, ar lan yr afon, mae olion treflan fechan ac mae’r eglwys (Eglwys St Mihangel) yn dal mewn defnydd o hyd.

Mae yma olion dau gastell yng Nghefnllys mewn gwirionedd. Codwyd y cyntaf yn 1242 gan Farwn Cyntaf y Mers, Roger Mortimer – archelyn (a chefnder) Llywelyn ap Gruffudd. Mi wrthryfelodd Cymry Maelienydd yn ystod ymgyrchoedd Llywelyn yng ngogledd Maesyfed, ac yn 1262 mi gipion nhw’r castell oddi ar Hywel ap Meurig, stiward Roger, gan garcharu ei wraig â’i blant cyn llosgi’r castell i’r llawr. Atgyfnerthwyd gafael y gwrthryfelwyr ar yr ardal gan luoedd tywysogion Deheubarth a chwnstabl Llywelyn.

Clywodd Mortimer am y drychineb, a chodi byddin o blith dynion y Mers a gorymdeithio i Gefnllys, dim ond i wynebu trychineb arall pan ddaeth wyneb yn wyneb â byddin Llywelyn ei hun, oedd newydd gyrraedd yr ardal. Dywed ffynhonellau’r Anglo-Normaniaid i fyddin y Tywysog gynnwys 300 o farchogion a 30,000 o filwyr troed – ond mae’r ffigwr olaf hwn yn ymddangos braidd yn fawr.
Bu’r frwydr yn un sydyn, fodd bynnag, ac yn fuan mi gafodd gweddillion byddin Mortimer a Humphrey Bohun yr Ieuengaf eu hamgylchynnu ymysg gweddillion Castell Cefnllys. Gan adael rhan o’i fyddin o amgylch y castell, symudodd Llywelyn yn ei flaen i gipio cestyll eraill Mortimer yn yr ardal – ymgyrch a brofodd yn hawdd wrth i garsiynnau Mortimer ildio’r cestyll yng ngwyneb goruchafiaeth milwrol Llywelyn a’i beiriannau gwarchae. Wedi concro gogledd Maesyfed, caniataodd Llywelyn i’w gefnder Mortimer a gweddillion ei fyddin deithio’n ddiogel i Gastell Wigmore yn Swydd Henffordd – ble y dywedir i Mortimer dyngu llw i ddial ar ei gefnder o Wynedd.

Yng Nghytundeb Trefaldwyn 1267, cadarhawyd penarglwyddiaeth Llywelyn dros Faesyfed (a phenarglwyddiaeth Coron Lloegr dros Llywelyn). Yn y cytundeb hefyd caniataodd Llywelyn i Roger Mortimer ailgydio ym Maelienydd (o dan ei benarglwyddiaeth) ac ailgodi Castell Cefnllys, ar yr amod y byddai Mortimer yn dod i gytundeb â Llywelyn ynglyn â hawl y tywysog i’r tir. Wnaeth Mortimer ddim cadw at ei air, fodd bynnag, ac erbyn 1268 mae Llywelyn wedi cwyno wrth Harri III, brenin Lloegr, am hynny ac am y ffaith fod Mortimer wedi dechrau codi ail gastell ar y safle.

Cafodd Llywelyn ddim clust i’w gwynion gan Harri, fodd bynnag, a diflannodd pob gobaith o gydymdeimlad gydag esgyniad ei nemesis (a chyfyrder), Edward I, i’r orsedd yn 1272. Ymstyfnigodd Llywelyn, gan beidio talu gwrogaeth i Edward ar sawl achlysur, a tyfodd yr elyniaeth rhyngddo â’r brenin seicopathig yn ryfel trychinebus i Lywelyn – rhyfel a ddaeth i ben efo Cytundeb Aberconwy yn 1277 a cholledion gwleidyddol a thiriogaethol anferth i’r tywysog. Yn y cyfamser cwblhaodd Mortimer yr ail gastell yn 1268, ac yr oedd yn dal yn ei feddiant yn 1277 ac yn ystod rhyfel olaf Llywelyn yn 1282.

Fodd bynnag, dinistriwyd Castell Cefnllys eto gan Gymry Maeliennydd yn ystod gwrthryfel Madog ap Llywelyn, gyda chefnogaeth Cynan ap Maredudd o Deheubarth a Morgan ap Maredudd o Gwynllwg, yn 1294-95. Wedi diwedd aflwyddiannus y gwrthryfel hwnnw bu safle’r castell yn nwylo Edmund Mortimer, mab Roger, ond does fawr o hanes i’r lle yn ystod y 14G.

Atgyferthwyd y castell yn 1403, fodd bynnag, yn ystod rhyfel Owain Glyndŵr, ond erbyn 1406 adroddwyd fod Castell Cefnllys a’r ardal wedi eu dinistrio’n llwyr gan y gefnogwyr Glyndŵr. Gwnaed rhywfaint o waith atgyweirio yng Nghefnllys yn y 1430au, ond erbyn 1588 mae’r castell yn adfail llwyr.