Blog Cwmni Da

3 Enwebiad i Cwmni Da

Mae Cwmni Da yn falch iawn o gael yr anrhydedd o gael 3 o’n rhaglenni ar restr fer gwobrwyau yr Wŷl Cyfyngau Celtaidd.

Edrychwn ymlaen yn eiddgar i’r Wŷl a fydd yn cael ei hel yn Derry, Gogledd Iwerddon ar yr 18-20 o Ebrill. Dyma’r cynhyrchiadau Cwmni Da sydd wedi’i henwebu:

Addysg – RhyfeddOD

Pobl Ifanc – Dim Byd

Adloniant – Wil a Cet

“Mae’r newydd fod ‘RhyfeddOD’ wedi cyrraedd rhestr fer yr Wŷl Cyfryngau Celtaidd am yr ail flwyddyn yn olynol yn newyddion gwych. Mae gan Cwmni Da hanes hir a llwyddiannus o gynhyrchu rhaglenni plant, maes sy’n hanfodol i ffyniant y sianel. Mae’r gyfres ‘RhyfeddOD’ yn ymdrin â’r byd o’n cwmpas, gan geisio esbonio’r ffenomenau mewn dull gwyddonol, a braf yw gweld cyfres o’r math yma yn cyrraedd y rhestr fer am yr ail dro.”
- Llŷr ab Alwyn, un o gynhyrchwyr RhyfeddOD.

I weld yr enwebion cyfan, cliciwch yma.