Mae Cwmni Da yn berchen ar adnoddau ôl-gynhyrchu llawn sy’n cynnwys 9 gweithle Avid, pob un gyda monitro fideo a sain llawn a meicroffonau trosleisio. Mae gennym ystod eang o adnoddau chwarae-nôl, gan gynnwys fformatau HDV, Digibeta, DV, HDCAM, a XDCAM. Yn ogystal â hyn mae gennym adnoddau dyblygu CD/DVD.
Mae ein hadnoddau ôl-gynhyrchu sain yn cynnwys stafell dybio Sadie sydd â bwth trosleisio llawn, talkback, monitor llun maint llawn ac adnoddau dal a chwarae fideo yn ôl. Mae ein hail stafell ddybio yn defnyddio meddalwedd Protools HD llawn gan gynnwys desg gymysgu sain D-Command, XMON, HD Nugget, meic troslais a pre-amp ‘valve’.
Mae holl adnoddau’r cwmni ( gan gynnwys pob stafell olygu a dyb) wedi eu rhwydweithio’n llawn gyda storfa ddiogel RAID 5.
Os ydych am holi ynglŷn â llogi adnoddau ôl gynhyrchu mae croeso i chi gysylltu â’r Rheolwr Adnoddau ar 01248 671167.